Disgrifiad o'r Rôl
Cadeirydd
Tymor y swydd: 2 dymor o 3 blynedd
Tâl: Mae rôl y Cadeirydd yn ddi-dâl ond telir treuliau fel gofal plant a theithio er mwyn cefnogi presenoldeb yng nghyfarfodydd y Bwrdd. Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon ond rydych yn wynebu rhwystrau wrth wneud cais, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn eich cefnogi.
Ymrwymiad Amser: 2 i 3 diwrnod y mis
O leiaf pedwar cyfarfod Bwrdd y flwyddyn ac un diwrnod i ffwrdd. Disgwylir i'r Cadeirydd hefyd gael cyfarfodydd rheolaidd a bod mewn cysylltiad rheolaidd â'r Prif Weithredwr a chysylltu ag aelodau eraill y Bwrdd ac Is-bwyllgorau'r Bwrdd rhwng cyfarfodydd llawn y Bwrdd.
Lleoliad: Yng Nghymru, yn ôl cylchdro yn y Gogledd Ddwyrain, Gogledd Orllewin, De Ddwyrain a De Orllewin yn ogystal ag ar-lein.
Cyfrifoldebau'r Cadeirydd
Bydd y Cadeirydd yn dal y Bwrdd a'r Tîm Gweithredol i gyfrif am genhadaeth a gweledigaeth y sefydliad, gan ddarparu arweinyddiaeth gynhwysol i Fwrdd Sefydliad Cymunedol Cymru, gan sicrhau bod pob aelod o'r Bwrdd yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau am lywodraethu'r sefydliad yn effeithiol.
Bydd y Cadeirydd hefyd yn cefnogi, a, lle bo hynny'n briodol, yn herio'r Prif Swyddog Gweithredol (Prif Weithredwr) ac yn sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu fel tîm ac yn gweithio'n agos gydag Uwch Dîm Rheoli cyfan y sefydliad er mwyn cyflawni amcanion y cytunwyd arnynt.
Disgrifiad Rôl
Mae'r Cadeirydd yn arwain Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac yn gweithio'n agos gyda Phrif Weithredwr ac Uwch Dîm Rheoli'r Elusen i gyflawni ei nodau. Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am feysydd allweddol, gan gynnwys:
Strategaeth a Llywodraethu
Sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu'n effeithiol i gefnogi cenhadaeth a gwerthoedd Sefydliad Cymunedol Cymru ac i gyflawni ei amcanion.
Diogelu buddiannau buddiolwyr Sefydliad Cymunedol Cymru a darparu goruchwyliaeth o fuddiannau rhanddeiliaid.
Sicrhau safonau uchel o lywodraethu a rheoli risg.
Sicrhau bod y Bwrdd mor amrywiol â phosibl ac yn darparu'r ystod o wybodaeth, sgiliau a phrofiad sy'n angenrheidiol i gyflawni nodau'r elusen.
Sicrhau bod y sefydliad yn atebol ac yn dryloyw yn ei weithgareddau.
Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth elusennol a chwmni perthnasol.
Sicrhau bod y pedwar Is-bwyllgor Cyllid, Risg a Buddsoddi, Rhoi Grantiau, Blaengynllunio a Datblygu a Llywodraethu yn cefnogi'r Bwrdd yn effeithiol.
Sicrhau bod y Bwrdd yn ymgorffori'r cydbwysedd cywir o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd eu hangen i lywodraethu ac arwain y sefydliad yn effeithiol, a hefyd yn adlewyrchu'r cymunedau amrywiol y mae CFW yn gweithio gyda nhw.
Sicrhau Bwrdd sy'n perfformio'n dda ac yn effeithiol trwy ymrwymo i arfarnu ac adolygu perfformiad yr Ymddiriedolwyr a'r Bwrdd yn rheolaidd (gan gynnwys rheoli ymddeoliadau ac ymddiswyddiadau Ymddiriedolwyr).
Sicrhau bod barn a chyfranogiad CFW yn cael eu cynrychioli ar lefel UKCF
Arwain a chefnogi'r Prif Weithredwr
Darparu rheolaeth llinell a gweithio mewn partneriaeth â'r Prif Weithredwr i'w cefnogi i gyflawni nodau'r elusen.
Cefnogaeth ac arweiniad ar weithrediadau, gan gynnwys rheoli personél.
Cynnal adolygiad gwerthuso a thâl blynyddol ar gyfer y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag aelodau eraill y Bwrdd.
Eiriolaeth a chynhyrchu incwm
Gweithredu fel llysgennad i godi proffil a gwelededd Sefydliad Cymunedol Cymru gyda rhanddeiliaid perthnasol, i gyflawni canlyniadau sydd o fudd i'r ddwy ochr.
Defnyddio rhwydweithiau personol a phroffesiynol i helpu'r weithrediaeth gyda mynediad at roddwyr a chefnogwyr posibl gan gynnwys llywodraethau, cyrff rhyngwladol, corfforaethau, ymddiriedolaethau a sefydliadau, elusennau, sefydliadau ar lawr gwlad, ac unigolion.
Darparu cyngor a chymorth i godi a chynnal proffil yr elusen yn y DU ac yn rhyngwladol.
Goruchwyliaeth Ariannol
Sicrhau, gyda'r Bwrdd, bod goruchwyliaeth ariannol gadarn sy'n cynnwys adolygu a chymeradwyo'r gyllideb flynyddol.
Goruchwylio safonau uchel o reoli ariannol.
Arwain Cyfarfodydd y Bwrdd
Arwain ar bob agwedd ar reoli cyfarfodydd, gan gynnwys sicrhau bod papurau yn cael eu dosbarthu ymlaen llaw.
Sicrhau bod holl leisiau'r Ymddiriedolwyr yn cael eu cynnwys a bod sgiliau'n cael eu defnyddio.
Crynhoi pwyntiau allweddol a sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud a'u gweithredu.
Manyleb Person
Profiad Hanfodol
Profiad blaenorol fel ymddiriedolwr elusen a dealltwriaeth gadarn o arferion llywodraethu da.
Profiad o weithredu ar lefel arweinyddiaeth strategol uwch o fewn sefydliad.
Profiad o gadeirio cyfarfodydd, pwyllgorau neu fyrddau a defnyddio sgiliau cadeirio, gan gynnwys tynnu sylw at ystod o safbwyntiau, syntheseiddio'r rhain a dod i benderfyniadau.
Profiad o reoli uwch arweinwyr a chefnogi rheoli timau sy'n perfformio'n dda, gan ddefnyddio dull agored a ‘dim pethau annisgwyl’.
Profiad o weithredu fel llysgennad a chodi proffil sefydliad, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol.
Profiad o weithio gydag ystod o randdeiliaid, gyda'r gallu i ddatblygu perthynas â phawb.
Profiad o ddarparu goruchwyliaeth ariannol a chraffu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol.
Dealltwriaeth o Gymru, sut mae'n gweithio, ei busnesau a'i chymunedau, gydag angerdd am yr effaith y gall cymunedau ei chael.
Profiad Manteisiol
Profiad blaenorol fel Cadeirydd.
Ymwneud yn ehangach â'r sector gwirfoddol.
Sgiliau
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol.
Sgiliau dylanwadu cryf gyda'r gallu i ennill parch a chefnogaeth gan wahanol gymunedau a rhanddeiliaid.
Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf a'r gallu i barchu cyfrinachedd gyda chydweithwyr.
Darparu cydbwysedd o bwyll a diplomyddiaeth, gyda pharodrwydd i herio'n adeiladol yn ôl yr angen.
Deall a derbyn dyletswyddau, cyfrifoldebau a rhwymedigaethau cyfreithiol Ymddiriedolwyr.
Galluoedd
Dangos ymrwymiad i werthoedd Sefydliad Cymunedol Cymru a gallu eu cadw nhw'n bersonol.
Rhannu egni a brwdfrydedd y sefydliad a bod yn ymrwymedig i'w rôl fel Cadeirydd.
Gallu meddwl yn strategol a gyda gweledigaeth flaengar mewn perthynas ag amcanion a nodau'r elusen a'i rôl ym mywyd Cymru.
Nodi materion mawr gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac enw da hirdymor yr elusen.
Bod â diddordeb ym materion polisi Sefydliad Cymunedol Cymru.
Gweithredu'n dryloyw ac yn agored, gan barhau i gynnal diwylliant peidio-beio Sefydliad Cymunedol Cymru fel sefydliad dysgu.
Dangos ymrwymiad i amcanion, nodau a gwerthoedd yr elusen a pharodrwydd i neilltuo'r amser sydd ei angen i gyflawni cyfrifoldebau yn effeithiol.
Dyddiadau'r Bwrdd 2024
Mehefin 17 – Wrecsam
Medi 23 – Canolbarth Cymru
Rhagfyr 2 - Caerdydd