Prospectus Executive Search

Croeso

Helo!

Diolch am eich diddordeb yn rôl Cadeirydd Sefydliad Cymunedol Cymru - mae hwn yn amser cyffrous i ystyried ymuno â ni!

Eleni rydym yn dathlu 25 mlynedd o gefnogi cymunedau ym mhob cwr o Gymru, lle'r ydym wedi dosbarthu £40m i bobl a grwpiau cymunedol. Y llynedd, roeddem wedi gallu dyfarnu £2.6m o gyllid i fwy na 500 o grwpiau ac unigolion, oedd yn deillio o incwm o'n cronfa waddol (sydd bellach yn gyfanswm o £ 21m), ac o'n darpariaeth o wasanaethau rhaglenni grant ledled Cymru.

Credwn yng ngrym cymuned i newid bywydau pobl er gwell; ein cryfder yw cyfuno ein dealltwriaeth o anghenion lleol gyda'n gwireddu effeithiol o uchelgeisiau dyngarol. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y ddau faes. Mae ein partneriaeth ariannu gref gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality yn helpu i wella iechyd a lles ac adeiladu sgiliau a doniau cenedlaethau'r dyfodol, gan hefyd gynnwys eu pobl nhw yn narpariaeth y sefydliad.

Mewn ymateb i'r heriau cyfredol, lansiwyd dwy gronfa allweddol gennym hefyd – ein Cronfa Croeso Cenedl Noddfa a'n Cronfa Cymunedau Gyda'n Gilydd – Cronfa Costau Byw – i redeg ochr yn ochr â dosbarthu cyllid o gynlluniau grant eraill.

Er ein bod yn dathlu ein pen-blwydd gyda rhai dathliadau, rydym yn edrych yn ein blaenau tuag at y dyfodol i raddau mawr. Gan adeiladu ar 24 mlynedd o dwf, mae gennym gynlluniau mawr yn yr arfaeth ar gyfer datblygu pellach wrth i ni ganolbwyntio ar ffyrdd o annog mwy o ddyngarwch a rhoddi yng Nghymru, fel y gallwn gryfhau'r gefnogaeth a roddwn ymhellach i gymunedau ac elusennau lleol.

Rydym mewn sefyllfa dda i wneud hyn yn y cyfnod hynod anodd hwn, gan weithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys busnesau ac unigolion yng Nghymru sydd am gefnogi cymunedau Cymru, grwpiau cymunedol lleol, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, y trydydd sector, a'r Cymry ar wasgar ehangach.

Bydd ein Cadeirydd nesaf yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi ac ehangu'r perthnasoedd hynny a chynyddu dealltwriaeth o'r hyn a wnawn. Ac, wrth i ni agosáu at ddechrau ein cylch cynllunio strategol nesaf, dyma'r amser perffaith i ymuno â ni.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau dysgu mwy amdanom ni a gwaith pwysig Sefydliad Cymunedol Cymru a amlinellir yn y pecyn hwn. Yn y pen draw, gobeithiwn eich bod yn teimlo mai ni yw'r math o sefydliad yr hoffech chi fod yn rhan bwysig ohono, gan ein helpu i ysbrydoli pobl i roi, helpu ein cymunedau hyfryd o amrywiol i ffynnu a helpu i newid bywydau yng Nghymru er gwell.


Ein Gwerthoedd

Rydym yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan werthoedd. Mae ein gwerthoedd wedi dod gan ein tîm, maen nhw'n siapio sut rydym yn gweithio ac maen nhw'n cael eu hymgorffori ym mhopeth a wnawn.

Rydym yn bartneriaid da

Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi ein partneriaid, p'un a ydyn nhw'n rhan o'n staff a'n tîm ymddiriedolwyr, rhoddwyr neu gefnogwyr neu'n bobl yr ydym yn gweithio â nhw.

Rydym yn deall bod partneriaeth yn ein gwneud yn gryfach ac yn ein helpu i gyflawni mwy.

Rydym yn gwrando ac yn defnyddio ein sgiliau a'n harbenigedd i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwych a sicrhau canlyniadau.

Rydym yn gofalu am y bobl yr ydym yn gweithio â nhw

Rydym yn gynnes, yn ofalgar ac yn ystyriol.

Rydym yn gweithredu gyda gonestrwydd.

Gwnawn y gorau y gallwn dros bobl yng Nghymru

Rydym yn gwneud gwahaniaeth

Rydym wedi ymrwymo i wella bywydau yng Nghymru.

Rydym yn rhoi cynnig ar bethau newydd, rydym yn datrys problemau ac rydym yn dysgu.

Rydym yn rhagweithiol ac yn uchelgeisiol.