Ein cynlluniau
Rydym yn gweithio i strategaeth bum mlynedd, sydd i fod i gael ei hadnewyddu yn 2026.
Nod y strategaeth yw newid bywydau pobl yng Nghymru trwy gynhyrchu'r cyllid sydd ei angen i gryfhau cymunedau, gyda'r canlyniadau canlynol:
Bydd Cymru yn lle gwell i fyw, gyda chymunedau cryfach
Bydd gan Gymru fwy o adnoddau dyngarol
Bydd ein trydydd sector yn fwy effeithiol
GWELEDIGAETH – 2025
Rydym yn newid bywydau pobl yng Nghymru drwy gynhyrchu’r cyllid sydd ei angen arnynt i gryfhau cymunedau.
AMCAN CRAIDD 1
Rydym yn newid bywydau pobl yng Nghymru drwy gynhyrchu’r cyllid sydd ei angen arnynt i gryfhau cymunedau.
AMCAN CARIDD 2
Rydym yn darparu’r cyllid sydd ei angen ar bobl yng Nghymru. Gallwn nodi ein heffaith yn glir.
AMCAN CARIDD 3
Mae gennym dim llwyddiannus o staff ac ymddiriedolwyr sy’n dangos ein gwerthoedd ac yn gweithio i arfer gorau.
25 mlynedd o gefnogi cymunedau Cymru
Eleni mae'r elusen yn nodi ei 25ain blwyddyn o gefnogi cymunedau yng Nghymru.
Rydym yn defnyddio hwn fel cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i ddosbarthu £40m i gymunedau yng Nghymru a hefyd i godi ymwybyddiaeth ac adeiladu cefnogaeth ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn cynnal digwyddiadau pen-blwydd yn Wrecsam, Caerdydd a Llundain i ddod â'n cefnogwyr at ei gilydd i glywed hanesion yr hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn a sut y gallwn wneud mwy yn y dyfodol, gyda'n gilydd.
Adeiladu mewnwelediad – a chyflawni newid
Mae elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru yn dweud wrthym eu bod eisiau i gyllidwyr flaenoriaethu cyllid craidd a phartneriaethau tymor hwy.
Dyna oedd y neges gref, glir a ddaeth allan o'n sgwrs fawr gyda'r sector pan gyfarfu tîm Sefydliad Cymunedol Cymru a siarad â mwy na 100 o grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru. Fe wnaethon ni ddarganfod yr hyn sy'n wirioneddol bwysig iddyn nhw a sut maen nhw'n credu y gallen ni eu cefnogi nhw orau. Cyhoeddwyd y canfyddiadau yn ein hadroddiad Loud and Clear ac maent wedi llywio newidiadau yn ein gwaith o roi grantiau gyda ffocws cryfach ar gyllid craidd yn y tymor hwy.
Y Bwrdd a'n Strwythur Llywodraethu
Isod mae ein strwythur llywodraethu sy'n dangos y bwrdd a'r pwyllgorau:
Bwrdd Sefydliad Cymunedol Cymru
Cyllid, Risg a Buddsoddi
Grantiau
Llywodraethiant
Cynllunio a Datblygu